Elektrine
Log in Register
Paige Chat Timeline Gallery Friends Email Drive DNS Private DNS Domains VPN Kairo Nerve
Remote

Golwg

@golwg@mastodon.360.cymru
mastodon 4.3.1
  • Open on mastodon.360.cymru

Newyddion, materion cyfoes, celfyddydau a chwaraeon gan Golwg360 a Chylchgrawn Golwg.

355 Followers
0 Following
50 Posts
Joined February 05, 2023
Golwg360:
https://golwg.360.cymru
Cylchgrawn Golwg:
https://golwg.360.cymru/cylchgrawn
Tanysgrifio:
https://360.cymru/tanysgrifio/golwg/
Facebook:
https://www.facebook.com/Golwg360/
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Sioned Williams yn cyhuddo Reform o droi hawliau pobl draws yn ‘rhyfel diwylliannol’

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithredu’r gyfraith, ond yn parhau i sefyll yn erbyn trawsffobia.

https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2199152-sioned-williams-cyhuddo-reform-droi-hawliau-pobl?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Sioned Williams yn cyhuddo Reform o droi hawliau pobl draws yn ‘rhyfel diwylliannol’
Golwg360

Sioned Williams yn cyhuddo Reform o droi hawliau pobl draws yn ‘rhyfel diwylliannol’

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cyhuddo Reform UK o geisio troi maes “cymhleth a sensitif” o’r gyfraith yn “rhyfel diwylliannol”. Daeth sylwadau Sioned Williams yn ystod cyfnewid geiriau â’r Aelod Reform Laura Anne Jones yn y Senedd ddydd Mawrth.

1
0
2
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 5mo ago

Artistiaid ifanc o Gymru wedi’u dewis i gynrychioli Cymru yn Biennale Fenis

Profiad anhygoel i’r myfyrwyr ifanc creadigol hyn o Gymru

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/celf-weledol/2195938-artistiaid-ifanc-gymru-wedi-dewis-gynrychioli?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Artistiaid ifanc o Gymru wedi’u dewis i gynrychioli Cymru yn Biennale Fenis
Golwg360

Artistiaid ifanc o Gymru wedi’u dewis i gynrychioli Cymru yn Biennale Fenis

Mae cyfle rhyngwladol arbennig wedi’i gynnig i 19 o myfyrwyr artistig o Gymru ar ddechrau eu gyrfaoedd wrth iddyn nhw gael eu dewis i gymryd rhan yn rhaglen datblygiad proffesiynol yn Fenis yr haf yma.

1
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

‘Dim ond rhan o’r cyfiawnder’ sydd wedi’i sicrhau yn achos Neil Foden – Prif Weinidog

Dywedodd Rhun ap Iorwerth mai’r flaenoriaeth yw atal achos tebyg rhag digwydd eto.

https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2199140-rhan-cyfiawnder-sydd-wedi-sicrhau-achos-neil-foden?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

‘Dim ond rhan o’r cyfiawnder’ sydd wedi’i sicrhau yn achos Neil Foden – Prif Weinidog
Golwg360

‘Dim ond rhan o’r cyfiawnder’ sydd wedi’i sicrhau yn achos Neil Foden – Prif Weinidog

Mae’r Prif Weinidog wedi amddiffyn y penderfyniad i beidio â chynnal ymchwiliad pellach i ymateb Cyngor Gwynedd i achos Neil Foden. Cafwyd y cyn-bennaeth ysgol yn euog yn 2024 o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 5mo ago

S4C yn ehangu presenoldeb ar Youtube, gan wireddu ei gweledigaeth o ddod yn ddarlledwr digidol yn gyntaf

Bydd y cydweithio yn rhoi gwell syniad am dueddiadau’r platfform ac ymddygiad cynulleidfaoedd

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/sgrin/2195945-ehangu-presenoldeb-youtube-wireddu-gweledigaeth?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

S4C yn ehangu presenoldeb ar Youtube, gan wireddu ei gweledigaeth o ddod yn ddarlledwr digidol yn gyntaf
Golwg360

S4C yn ehangu presenoldeb ar Youtube, gan wireddu ei gweledigaeth o ddod yn ddarlledwr digidol yn gyntaf

Mae S4C wedi cyhoeddi datblygiad strategol sylweddol gyda’r llwyfan ffrydio YouTube. Bydd y bartneriaeth yn golygu y bydd S4C yn cydweithio â YouTube i lywio ei strategaeth ddigidol, gan ganolbwyntio ar dyfu cynulleidfaoedd a gwella’r ffyrdd o ddarganfod cynnwys Cymraeg ar y platfform.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

O deulu di-Gymraeg i’r dosbarth Cymraeg: dathlu 15 mlynedd o’r Coleg Cymraeg

Dywed Santhi Dosanjh na fyddai “erioed” wedi ystyried dysgu mewn ysgol Gymraeg oni bai am y cyfleoedd a gafodd drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

https://golwg.360.cymru/newyddion/addysg/2199107-deulu-gymraeg-dosbarth-cymraeg-dathlu-mlynedd?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

O deulu di-Gymraeg i’r dosbarth Cymraeg: dathlu 15 mlynedd o’r Coleg Cymraeg
Golwg360

O deulu di-Gymraeg i’r dosbarth Cymraeg: dathlu 15 mlynedd o’r Coleg Cymraeg

Ni fyddai Santhi Dosanjh “erioed” wedi ystyried dysgu mewn ysgol Gymraeg oni bai am y cyfle i ailafael yn yr iaith yn y brifysgol. Bellach, mae’r athrawes Bioleg o Bort Talbot yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Ystalyfera Bro Dur — ac yn gobeithio ysbrydoli disgyblion o bob cefndir i wneud yr un peth.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Morgannwg yn curo Gwlad yr Haf dan lifoleuadau ffaeledig Taunton

Bu’n rhaid gadael y cae sawl gwaith

https://golwg.360.cymru/chwaraeon/criced/2198803-morgannwg-curo-gwlad-lifoleuadau-ffaeledig-taunton?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Morgannwg yn curo Gwlad yr Haf dan lifoleuadau ffaeledig Taunton
Golwg360

Morgannwg yn curo Gwlad yr Haf dan lifoleuadau ffaeledig Taunton

Mae Morgannwg wedi curo Gwlad yr Haf o bedair wiced mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast dan y llifoleuadau yn Taunton. Bu’n rhaid gadael y cae sawl gwaith wrth i’r goleuadau gael eu diffodd cyn i Forgannwg gyrraedd y nod sylweddol o 203 yn y belawd olaf un.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Holi enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2026

“Mae plant Cymru eisie uniaethu gyda llyfrau, a gweld eu hunain o fewn llyfrau” #CylchgrawnGolwg

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2198730-cyhoeddi-enillwyr-gwobrau-2026?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Holi enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2026
Golwg360

Holi enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2026

Bu seremoni arbennig ar lwyfan Canlyniadau maes Eisteddfod yr Urdd ym Môn i wobrwyo enillwyr Gwobrau Llyfrau Plant a Phobol Ifanc Tir ân n-Og 2026 – a hithau’n ben-blwydd y gwobrau yn 50 oed. Prif enillydd y categori Cynradd oedd Am Gymro! (Y Lolfa) gan Medi Jones-Jackson, wedi’i ddarlunio gan Telor Gwyn.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Cymru’n cael eu cosbi’n hwyr yn Montenegro

Gôl hwyr gan Montenegro yn gwadu buddugoliaeth i Gymru cyn gêm dyngedfennol yn erbyn Tsiecia yng Nghaerdydd nos Fawrth.

https://golwg.360.cymru/chwaraeon/pel-droed/2198900-cymru-cael-cosbi-hwyr-montenegro?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Cymru’n cael eu cosbi’n hwyr yn Montenegro
Golwg360

Cymru’n cael eu cosbi’n hwyr yn Montenegro

Methodd Cymru â chipio’r tri phwynt yn Podgorica wrth i Montenegro daro’n ôl yn hwyr i sicrhau gêm gyfartal 1-1 yng ngêm olaf ond un y grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd FIFA Menywod 2027. Roedd tîm Rhian Wilkinson ar y blaen drwy gic gosb Hannah Cain yn y 40fed munud, ar ôl i Ella Powell gael ei thynnu i lawr yn y cwrt cosbi.

0
0
2
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

‘Roedd angen rhoi’r gorau i bopeth a gwrando’: gŵr yn rhannu stori ei wraig

Mae Nigel Davies yn rhannu realiti gofalu am ei wraig ar ôl iddi gael diagnosis o ganser terfynol yr ymennydd.

https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2199117-roedd-angen-rhoi-gorau-bopeth-gwrando-rhannu-stori?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

‘Roedd angen rhoi’r gorau i bopeth a gwrando’: gŵr yn rhannu stori ei wraig
Golwg360

‘Roedd angen rhoi’r gorau i bopeth a gwrando’: gŵr yn rhannu stori ei wraig

Daeth Nigel Davies yn ofalwr dros nos pan gafodd ei wraig, Emma, ddiagnosis o ganser terfynol yr ymennydd. Bellach, mewn ffilm fer Gymraeg newydd, mae’r cyn-ymgynghorydd amaethyddol o Fae Colwyn yn rhannu profiad ei deulu, gan drafod y realiti cudd o ofalu am rywun annwyl drwy salwch difrifol.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Canmol dirwy o £44.7 miliwn i Ddŵr Cymru am halogi afonydd

Mae’r corff cyhoeddus wedi ‘methu’n lan,’ medd y Democratiaid Rhyddfrydol

https://golwg.360.cymru/newyddion/amgylchedd/2198850-canmol-dirwy-miliwn-ddwr-cymru-halogi-afonydd?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Dirwy o £44.7 miliwn i Ddŵr Cymru am halogi afonydd
Golwg360

Dirwy o £44.7 miliwn i Ddŵr Cymru am halogi afonydd

Mae David Chadwick, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros Aberhonddu, Maesyfed, a Chwm Tawe, wedi croesawu’r cyhoeddiad gan y rheoleiddwyr dŵr Ofwat y bydden nhw’n derbyn dirwy o £44.7 miliwn gan Dŵr Cymru, ac mai’r corff ei hun, nid cwsmeriaid, fydd yn talu.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

🗣 “Paid â’m gadael i lawr, Heledd” – pam mae’r tôn hon mor gyfarwydd i fenywod?

Llinos Dafydd sy’n holi pam mae rhai dynion yn teimlo bod ganddynt hawl i fynnu atebion gan fenywod mewn grym — a’u ceryddu pan nad ydynt yn eu cael #safbwynt #gwleidyddiaeth

https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2199070-paid-gadael-lawr-heledd-gyfarwydd-fenywod?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

“Paid â’m gadael i lawr, Heledd” – pam mae’r tôn hon mor gyfarwydd i fenywod?
Golwg360

“Paid â’m gadael i lawr, Heledd” – pam mae’r tôn hon mor gyfarwydd i fenywod?

Mae gan Iwan Bala bob hawl i ofyn am Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, ac i herio Plaid Cymru ynghylch ei hymrwymiad i’w sefydlu. Er mai dim ond ers ychydig wythnosau y mae’r blaid wedi bod yn arwain Llywodraeth Cymru, mae’n gwbl deg gofyn beth yw’r cynllun, sut y bydd yn cael ei wireddu a phryd y gallwn ddisgwyl gweld cynnydd.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

‘Angen i Lywodraeth Plaid Cymru weithredu ar frys i amddiffyn ysgolion gwledig’

Daw’r alwad gan Ffred Ffransis wedi i gynghorau Gwynedd a Chonwy symud ymlaen â chynigion fydd yn arwain at gau tair ysgol gynradd fechan yn y gogledd

https://golwg.360.cymru/newyddion/iaith/2199134-angen-lywodraeth-plaid-cymru-weithredu-frys?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

‘Angen i Lywodraeth Plaid Cymru weithredu ar frys i amddiffyn ysgolion gwledig’
Golwg360

‘Angen i Lywodraeth Plaid Cymru weithredu ar frys i amddiffyn ysgolion gwledig’

Mae’r ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis wedi galw ar Lywodraeth Plaid Cymru i weithredu “ar frys” ar ei hymrwymiad i adolygu’r rhagdybiaeth statudol yn erbyn cau ysgolion gwledig. Daw ei sylwadau ar ran Cymdeithas yr Iaith wedi penderfyniadau gan ddau awdurdod lleol ddydd Mawrth, 9 Mehefin, ynghylch dyfodol tair ysgol fechan yng ngogledd Cymru.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

🗣 Y Tair ‘C’

Mae arferion hamddena pobl wedi newid ers y pandemig – a hynny er gwaeth mewn rhai achosion #safbwynt

https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2198753-tair?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Y Tair ‘C’
Golwg360

Y Tair ‘C’

Y Pandemig ddechreuodd popeth. Dwi wirioneddol ddim yn cofio cymaint ohonyn nhw o gwmpas cyn hynny. Naill ai hynny, neu mae’r cof yn pallu. Wedi’r cwbl, mae digwyddiadau chwe blynedd yn ôl yn teimlo fel breuddwyd erbyn heddiw.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Canmol cynhyrchwyr a chynulleidfa “angerddol” Radio Cymru

Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, ar ben ei ddigon ar ôl i’r orsaf ennill un o brif wobrau Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd yng Ngogledd Iwerddon

https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2198835-canmol-cynhyrchwyr-chynulleidfa-angerddol-radio?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Canmol cynhyrchwyr a chynulleidfa “angerddol” Radio Cymru
Golwg360

Canmol cynhyrchwyr a chynulleidfa “angerddol” Radio Cymru

Mae Dafydd Meredydd wedi rhoi teyrnged i dîm cynhyrchu “angerddol” Radio Cymru ar ôl i’r orsaf ennill tlws Gorsaf Radio’r Flwyddyn yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026. Roedd deg gorsaf yn ymgiprys am y wobr eleni, gan gynnwys rhai eraill y BBC fel Radio Wales a Radio Foyle o Ogledd Iwerddon, yr orsaf radio annibynnol gyntaf trwy gyfrwng y Wyddeleg, Raidió na Life, a Radio Galega o Galisia, Sbaen.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Hunaniaeth wedi dylanwadu’n sylweddol ar fuddugoliaeth Plaid Cymru

Astudiaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru yn awgrymu bod ymdeimlad cryf o Gymreictod wedi chwarae rhan allweddol yn yr etholiad eleni

https://golwg.360.cymru/newyddion/2198881-hunaniaeth-wedi-dylanwadu-sylweddol-fuddugoliaeth?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Hunaniaeth wedi dylanwadu’n sylweddol ar fuddugoliaeth Plaid Cymru
Golwg360

Hunaniaeth wedi dylanwadu’n sylweddol ar fuddugoliaeth Plaid Cymru

Yn ôl y data, mae hunaniaeth Gymreig a diffyg ymdeimlad Prydeinig, wedi bod yn allweddol o safbwynt arferion pleidleisio pobl ym mis Mai. Llwyddodd Plaid Cymru i ennill 43 sedd gyda 35.4% o’r bleidlais yn genedlaethol.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

O Abertawe i’r Garreg Las: taith i ddathlu John Metcalf yn 80

Bydd Ensemble Nantwen a’r delynores Alis Huws yn mynd â gweithiau’r cyfansoddwr ar daith ledled Cymru yn ystod mis Awst.

https://golwg.360.cymru/newyddion/2199082-abertawe-garreg-taith-ddathlu-john-metcalf?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

O Abertawe i’r Garreg Las: taith i ddathlu John Metcalf yn 80
Golwg360

O Abertawe i’r Garreg Las: taith i ddathlu John Metcalf yn 80

Bydd cerddoriaeth John Metcalf yn cael ei pherfformio mewn pedwar lleoliad ledled Cymru yr haf hwn, wrth i Ensemble Nantwen nodi pen-blwydd y cyfansoddwr yn 80 oed. Bydd y daith yn dechrau yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ar 6 Awst, cyn symud ymlaen i Abergwaun, Cellan ger Llanbedr Pont Steffan a Llanilltud Fawr.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Adam Price yn annog busnesau i heidio i Gymru mewn datganiad ger bron y Senedd

Bu’r Gweinidog dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn cyfarch y Senedd ac yn egluro’i dargedau cynhyrchedd ar gyfer yr economi

https://golwg.360.cymru/newyddion/arian-a-busnes/2198765-adam-price-annog-busnesau-heidio-gymru-mewn?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Adam Price yn annog busnesau i heidio i Gymru mewn datganiad gerbron y Senedd
Golwg360

Adam Price yn annog busnesau i heidio i Gymru mewn datganiad gerbron y Senedd

Mae Cymru “ar agor ar gyfer busnes”, yn ôl y Gweinidog dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Wrth siarad gydag Aelodau’r Senedd ddydd Mawrth (Mehefin 2), dywedodd cyn arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, gafodd ei benodi i’r swydd fis diwethaf, fod Llywodraeth newydd Cymru yn “rhoi cynhyrchedd wrth galon eu cynlluniau”.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

‘Hawliau LHDTC+ dan fygythiad’: Hwb o bron £70,000 i ddigwyddiadau Balchder lleol

Mae’r cyllid sydd ar gael yng Nghronfa Balchder Llawr Gwlad yn cynyddu eleni, er mwyn cefnogi trefnwyr sy’n cynnal digwyddiadau i ddathlu Balchder.

https://golwg.360.cymru/newyddion/2199060-hawliau-lhdtc-fygythiad-bron-70000-ddigwyddiadau?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

‘Hawliau LHDTC+ dan fygythiad’: Hwb o bron £70,000 i ddigwyddiadau Balchder lleol
Golwg360

‘Hawliau LHDTC+ dan fygythiad’: Hwb o bron £70,000 i ddigwyddiadau Balchder lleol

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod digwyddiadau Balchder ar lawr gwlad yn bwysicach nag erioed wrth i hawliau’r gymuned wynebu “bygythiadau cynyddol” Bydd bron i £70,000 ar gael i gefnogi digwyddiadau Balchder lleol ledled Cymru, wrth i Lywodraeth Cymru rybuddio bod hawliau pobl LHDTC+ yn wynebu “bygythiadau cynyddol”.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Aleighcia a’r trombôns yn tanio!

Mae yn bosib iawn iawn mai’r sengl ‘Ti Neud Fi Symud’ fydd BANGAR FAWR YR HAF hwn #CylchgrawnGolwg #cerddoriaeth

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2198722-aleighcia-trombons-tanio?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Aleighcia a’r trombôns yn tanio!
Golwg360

Aleighcia a’r trombôns yn tanio!

Ers ei sefydlu yn 2015, mae band cyrn pres o Eryri wedi cydweithio gyda rhai o artistiaid amlycaf y Sîn Roc Gymraeg megis Mr Phormula, Alys Williams, Tara Bandito a Parisa Fouladi. A’r artist diweddaraf i ddod yn rhan o syrcas Band Pres Llareggub yw’r gantores Reggae o Gaerdydd, Aleighcia Scott.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Arwr clwb rygbi fy ieuenctid

“Pa mor dda oedd Steve Fenwick? Am chwe blynedd, ef oedd y canolwr disglair yn nhîm chwedlonol y 1970au” #CylchgrawnGolwg

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2199057-arwr-clwb-rygbi-ieuenctid?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Arwr clwb rygbi fy ieuenctid
Golwg360

Arwr clwb rygbi fy ieuenctid

Wythnos hon dwi wedi bod yn darllen cyfrol gan un o gewri Clwb Rygbi Ffynnon Taf. Mae’r clwb yn agos at fy nghalon; wnes i chwarae iddo yn fy ieuenctid ac erbyn heddiw, fy mrawd, Gwilym yw’r capten. Sefydlwyd yn 1887 ac ers hynny mae’r clwb wedi cynhyrchu nifer fawr o chwaraewyr i’r tîm cenedlaethol.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Steddfod yr Urdd a Gaza

“Pobl yn fwy parod i weld ochr Palesteina bellach ond does ’na neb yn gwneud dim i stopio’r lladd – a dyna be sy’n destun dagrau go-iawn” #CylchgrawnGolwg

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2199049-steddfod-urdd-gaza?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Steddfod yr Urdd a Gaza
Golwg360

Steddfod yr Urdd a Gaza

Wnes i fethu mynd yn y cnawd i Steddfod yr Urdd ym Môn, ond mi wnes i wylio cryn dipyn tra ro’n i’n gorwedd ar fy ngwely efo rhew ar fy mhen-glin. Ro’n i’n meddwl ar un adeg mai cymysgedd o boen a hunan-dosturi oedd yn fy ngwneud yn ddagreuol (ro’n i wedi rhedeg allan o boen-laddwyr cryf), ond naci, crio ‘neis’ oedd o.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 5mo ago

Drama newydd yn rhoi sylw i’r fenyw gyfrannodd at ddeall strwythur DNA

Bydd ‘DNA – Darganfod cyfrinach bywyd,’ oedd ymhlith y rheiny gystadlodd am y Fedal Ddrama yn 2024, yn teithio ledled Cymru fis Mehefin #theatr

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/theatr/2195885-drama-newydd-rhoi-sylw-fenyw-gyfrannodd-ddeall?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

golwg.360.cymru
0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Llafur Cymru yn cefnogi Andy

“Dwi’n credu bod y rhan fwyaf o bobol yn y Blaid Lafur yng Nghymru yn cydnabod bod Keir Starmer yn broblem” #CylchgrawnGolwg #newyddion

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2199108-llafur-cymru-cefnogi-andy?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Llafur Cymru yn cefnogi Andy
Golwg360

Llafur Cymru yn cefnogi Andy

O lwyddo yn Makerfield, mi fydd disgwyl i Andy Burnham herio Keir Starmer am swydd Prif Weinidog Prydain… Ymhen wythnos fe fydd is-etholiad yng ngogledd Lloegr allai arwain at newid seismig yn y byd gwleidyddol a chael effaith fawr ar Gymru.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

‘Dylai carchardai ddilyn safonau iaith Cymru – nid gosod eu rheolau eu hunain’

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am “newid sylfaenol” yn y gwasanaeth carchardai, gan ddweud bod y drefn bresennol wedi methu â diogelu hawliau carchar

https://golwg.360.cymru/newyddion/iaith/2199142-dylai-carchardai-ddilyn-safonau-iaith-cymru-gosod?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

‘Dylai carchardai ddilyn safonau iaith Cymru – nid gosod eu rheolau eu hunain’
Golwg360

‘Dylai carchardai ddilyn safonau iaith Cymru – nid gosod eu rheolau eu hunain’

Dylai carchardai Cymru gael eu gorfodi i ddilyn safonau iaith Llywodraeth Cymru, yn hytrach na gweithredu dan eu cynlluniau eu hunain, yn ôl Cymdeithas yr Iaith. Daw’r alwad yn sgil adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, ar yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn y gwasanaeth carchardai.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

‘Siom’ na fydd stondinau i fasnachwyr yn Ffiliffest yfory

Mae trefnwyr gŵyl Gymraeg y dref yn egluro na fydd eu pebyll yn medru gwrthsefyll y tywydd garw #celfyddydau

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/2198870-siom-fydd-stondinau-fasnachwyr-ffiliffest-yfory?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

‘Siom’ na fydd stondinau i fasnachwyr yn Ffiliffest yfory
Golwg360

‘Siom’ na fydd stondinau i fasnachwyr yn Ffiliffest yfory

Mae masnachwyr Caerffili “wedi’u siomi” ar ôl i drefnwyr Ffiliffest gyhoeddi na fydd gŵyl Gymraeg flynyddol y dref yn croesawu stondinau eleni. Bydd Ffiliffest, sy’n cael ei threfnu gan y Fenter Iaith leol, yn dal i fynd ymlaen ar Gaeau Owain Glyndŵr ger y castell enwog yfory (Mehefin 6).

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Sut wnaeth eglwys fach yn Eryri drechu gweddill y byd ar Reddit?

Diflannodd cyfandiroedd, gwledydd a dinasoedd — ond daliodd eglwys fach ym Meddgelert ei thir.

https://golwg.360.cymru/newyddion/2199051-wnaeth-eglwys-fach-eryri-drechu-gweddill-reddit?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Sut wnaeth eglwys fach yn Eryri drechu gweddill y byd ar Reddit?
Golwg360

Sut wnaeth eglwys fach yn Eryri drechu gweddill y byd ar Reddit?

Ar ôl 29 rownd o ddileu cyfandiroedd, gwledydd a threfi oddi ar fap, dim ond Eglwys y Santes Fair ym Meddgelert oedd ar ôl. Pe bai’n rhaid dileu’r byd, un hanner ar y tro, pa le fyddai’r olaf i oroesi?

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Sgyrsiau’r Soffa Goch: Gweledigaeth Cyfarwyddwr Artistig newydd Bara Caws i godi proffil y cwmni ar-lein

Cyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws sy’n trafod ei chynlluniau gyda golwg360 #celfyddydau #theatr

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/2198779-sgyrsiau-soffa-goch-gweledigaeth-cyfarwyddwr?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Sgyrsiau’r Soffa Goch: Gweledigaeth Cyfarwyddwr Artistig newydd Bara Caws i godi proffil y cwmni ar-lein
Golwg360

Sgyrsiau’r Soffa Goch: Gweledigaeth Cyfarwyddwr Artistig newydd Bara Caws i godi proffil y cwmni ar-lein

Wedi cwta chwe mis yn y rôl, mae Cyfarwyddwr Artistig newydd cwmni theatr Bara Caws wedi rhoi ei stamp ei hun ar y swydd drwy geisio hyrwyddo’r cwmni ar-lein. Ers iddi ymuno â’r cwmni fis Ionawr 2026, un o’r syniadau mae Ffion Dafis wedi ei roi ar waith ydy ‘Sgyrsiau’r Soffa Goch’, sef sgwrs rhyngddi hi â gwahanol westeion sy’n cael ei ffrydio ar wahanol blatfformau ar-lein.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Croeso’n ôl i dramiau Caerdydd!

Mae’n rhan o gynllun £100 miliwn Metro De Cymru i gysylltu 17 milltir o’r ddinas maes o law

https://golwg.360.cymru/newyddion/2198795-croeso-dramiau-caerdydd?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Croeso’n ôl i dramiau Caerdydd!
Golwg360

Croeso’n ôl i dramiau Caerdydd!

Mae tramiau gam yn nes at ddychwelyd i strydoedd y brifddinas, 76 mlynedd ers y siwrnai olaf. Bydd y gwaith cychwynnol hwn, gwerth £100 miliwn, yn dechrau i’r de o’r Orsaf Ganolog ddydd Llun, Mehefin 15, wrth i gontractwyr osod y seiliau o Sgwâr Callaghan i’r Bae.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 5mo ago

Y bwlch rhwng Plaid Cymru a Reform UK yn culhau mewn dau arolwg barn newydd

Mae polau diweddaraf YouGov a More in Common yn awgrymu bod y gefnogaeth i Blaid Cymru wedi gostwng rywfaint a’u bod bellach ochr yn ochr â Reform UK #gwleidyddiaeth

https://golwg.360.cymru/newyddion/gwleidyddiaeth/2195906-bwlch-rhwng-plaid-cymru-reform-culhau-mewn-arolwg?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Y bwlch rhwng Plaid Cymru a Reform UK yn culhau mewn dau arolwg barn newydd
Golwg360

Y bwlch rhwng Plaid Cymru a Reform UK yn culhau mewn dau arolwg barn newydd

Ychydig dros bythefnos cyn etholiadau’r Senedd, mae dau arolwg barn newydd yn awgrymu bod y bwlch rhwng Plaid Cymru a Reform UK wedi culhau. Mae pôl piniwn diweddaraf More in Common, oedd wedi holi 2,500 ledled Cymru, yn awgrymu bod y ddwy blaid yn arwain ar y cyd yn yr arolygon gyda 25% yr un o’r bleidlais.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

‘Cwango arall?’ – pleidiau’n herio cynllun tai Unnos

Mae Llafur, Reform a’r Ceidwadwyr wedi codi cwestiynau am gost, pwerau a gwerth corff tai cenedlaethol newydd Llywodraeth Cymru.

https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2199158-cwango-arall-pleidiau-herio-cynllun-unnos?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

‘Cwango arall?’ – pleidiau’n herio cynllun tai Unnos
Golwg360

‘Cwango arall?’ – pleidiau’n herio cynllun tai Unnos

Mae cynllun Llywodraeth Cymru i sefydlu corff datblygu tai cenedlaethol newydd wedi wynebu heriau gan y gwrthbleidiau ynghylch faint y bydd yn ei gostio, sut y bydd ei lwyddiant yn cael ei fesur ac a fydd yn arwain at fwy o fiwrocratiaeth.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 5mo ago

Welsh Whisperer yn lansio taith Dewin a Doti yn Eisteddfod yr Urdd

Bydd y diddanwr o Sir Gaerfyrddin yn perfformio ochr yn ochr â’r cymeriadau Dewin a Doti ar daith dros Gymru

https://golwg.360.cymru/newyddion/2195902-welsh-whisperer-lansio-taith-dewin-doti-eisteddfod?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Welsh Whisperer yn lansio taith Dewin a Doti yn Eisteddfod yr Urdd
Golwg360

Welsh Whisperer yn lansio taith Dewin a Doti yn Eisteddfod yr Urdd

Bydd y Welsh Whisperer yn serennu gyda’r cymeriadau Dewin a Doti fel rhan o daith i blant ifanc ar draws Cymru. Mae’r diddanwr canu gwlad yn wyneb cyfarwydd i Gymry ledled y wlad, a dyma fydd y tro cyntaf iddo gydweithio â’r Mudiad Meithrin.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

‘Rydyn ni wedi troi’n ddeinosoriaid’: perchnogion Parc y Deinosoriaid yn gwerthu ar ôl tri degawd

Mae’r atyniad teuluol ger Dinbych-y-pysgod wedi ei werthu i Magic Entertainment Partners, gyda’r perchnogion newydd yn addo buddsoddi yn y safle.

https://golwg.360.cymru/newyddion/2198786-rydyn-wedi-troi-ddeinosoriaid-perchnogion-parc?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

‘Rydyn ni wedi troi’n ddeinosoriaid’: perchnogion Parc y Deinosoriaid yn gwerthu ar ôl tri degawd
Golwg360

‘Rydyn ni wedi troi’n ddeinosoriaid’: perchnogion Parc y Deinosoriaid yn gwerthu ar ôl tri degawd

Mae perchnogion un o atyniadau teuluol mwyaf adnabyddus Sir Benfro wedi dweud ei bod hi’n bryd “rhoi’r gorau iddi” ar ôl gwerthu’r busnes a sefydlwyd ganddyn nhw dros 30 mlynedd yn ôl. Mae Parc y Deinosoriaid, sydd wedi’i leoli yn Gumfreston ger Dinbych-y-pysgod, wedi ei werthu i Magic Entertainment Partners.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Craffu360 Gair y Gohebwyr: ‘Rhun ap Iorwerth y Prif Weinidog, nid yn unig Arweinydd Plaid Cymru’

Rhys Owen ac Efan Owen sy’n trafod sesiwn gyntaf holi’r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn y Senedd #gwleidyddiaeth

https://golwg.360.cymru/newyddion/2198773-craffu360-gair-gohebwyr-rhun-iorwerth-prif?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Craffu360 Gair y Gohebwyr: ‘Rhun ap Iorwerth y Prif Weinidog, nid yn unig Arweinydd Plaid Cymru’
Golwg360

Craffu360 Gair y Gohebwyr: ‘Rhun ap Iorwerth y Prif Weinidog, nid yn unig Arweinydd Plaid Cymru’

Ym mhennod ddiweddaraf Craffu360 Gair y Gohebwyr, mae Rhys Owen ac Efan Owen yn trafod digwyddiadau gwleidyddol mwyaf yr wythnos. Dan sylw mae sesiwn gyntaf holi’r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn y Senedd.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 5mo ago

Leigh Halfpenny yn cyhoeddi ei ymddeoliad

Bydd ei yrfa’n gorffen gyda Chaerdydd, lle y dechreuodd hefyd

https://golwg.360.cymru/chwaraeon/rygbi/2196684-leigh-halfpenny-cyhoeddi-ymddeoliad?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

golwg.360.cymru
0
0
2
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 5mo ago

Perchnogion y Gweilch yn tynnu’n ôl o bryniant clwb rygbi Caerdydd

Mae’r Gweilch hefyd wedi cytuno i lofnodi cytundeb newydd i’r gamp, sy’n golygu mai’r Scarlets yn unig sy’n gwrthod ei gefnogi

https://golwg.360.cymru/chwaraeon/rygbi/2195929-perchnogion-gweilch-tynnu-bryniant-clwb-rygbi?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Perchnogion y Gweilch yn tynnu’n ôl o bryniant clwb rygbi Caerdydd
Golwg360

Perchnogion y Gweilch yn tynnu’n ôl o bryniant clwb rygbi Caerdydd

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cadarnhau na fydd cais perchnogion presennol clwb y Gweilch i brynu Clwb Rygbi Caerdydd yn mynd yn ei flaen. Mae hynny’n golygu y bydd Rygbi Caerdydd yn parhau dan berchnogaeth Undeb Rygbi Cymru am y tro hyd nes y bydd yn gwneud synnwyr masnachol a strategol i ailystyried y penderfyniad hwnnw.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Mei Gwynedd

Canwr, cerddor a chynhyrchydd profiadol sydd wedi bod yn aelod o rai o grwpiau mwyaf blaengar y Sîn Roc Gymraeg ers diwedd y 1980au #CylchgrawnGolwg #llyfrau

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2198743-gwynedd-2?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

golwg.360.cymru
0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Fi a fy Nghi

Yr awdures a cholofnydd, Malan Wilkinson, sy’n siarad am ei chi, Anni yr wythnos hon

https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2198808-nghi-28?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Fi a fy Nghi
Golwg360

Fi a fy Nghi

Dyma gyfres sy’n edrych ar y berthynas arbennig rhwng pobol a’u cŵn. Y tro yma, yr awdures a cholofnydd, Malan Wilkinson, sy’n siarad am ei chi, Anni. Mae Malan yn Uwch Swyddog Talent a Phrentisiaethau gyda Chyngor Gwynedd ac yn byw ger Caernarfon…

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Pwy sydd eisiau bod yn SpAd?

A fydd rhestr lawn o’r SpAds yn cael ei chyhoeddi yn gynharach, a hynny gan fod Plaid Cymru wedi ymrwymo i arwain mewn ffordd “dryloyw”? #CylchgrawnGolwg #gwleidyddiaeth

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2199069-sydd-eisiau-spad?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Pwy sydd eisiau bod yn SpAd?
Golwg360

Pwy sydd eisiau bod yn SpAd?

Nawr mae Aelodau newydd y Senedd wedi cymryd eu lle ym Mae Caerdydd, mae’n amser iddyn nhw benodi timau i’w cynorthwyo. Mae’r un yn wir, ac efallai’n fwy pwysig, o ran aelodau o Gabinet Llywodraeth Cymru.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Ai gwybod gormod oedd Alex Salmond?

“Prin fod angen dweud mai sut i beidio â rhedeg gwlad ydi’r wers bwysicaf y gall Rhun ap Iorwerth ei dysgu oddi wrth gamgymeriadau Nicola Sturgeon” #CylchgrawnGolwg

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2199076-gwybod-gormod-oedd-alex-salmond?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Ai gwybod gormod oedd Alex Salmond?
Golwg360

Ai gwybod gormod oedd Alex Salmond?

Yn un o’r cyfweliadau olaf iddo’i wneud, dywedodd Alex Salmond iddo roi gair o gyngor i’w olynydd Nicola Sturgeon wrth iddi gychwyn ar ei swydd yn Brif Weinidog yr Alban. A’r cyngor hwnnw oedd na ddylai ei gŵr, Peter Murrell, barhau fel Prif Weithredwr yr SNP tra’r oedd hi’n Brif Weinidog – gan y gallai hynny arwain at bob math o broblemau.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Yr Iranian Mwyn a Maradona

Brasil sydd am ennill tro’ma, a dyma pam: tydyn nhw heb ennill Cwpan y Byd ers 2002, ac maen nhw yn ‘diw am win’ #CylchgrawnGolwg

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2199080-iranian-mwyn-chwpan?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Yr Iranian Mwyn a Maradona
Golwg360

Yr Iranian Mwyn a Maradona

Ymweld â barbwrs Twrcaidd am hercan ym Mangor Uchaf. Y cneifiwr efo’r clipars yn gofyn: “Do you like football?” “Wrth gwrs fy mod i, ac alla i ddim aros am Gwpan y Byd.” Ni’n dau yn gwenu. Yntau yn egluro ei fod yn hanu o Iran.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 5mo ago

Archif o 2,000 o dapiau sain Cymraeg o’r 1980au i’w hagor yn Llambed

Bydd cyfle i unrhyw un wrando ar gyfweliadau o’r Arolwg Tafodieithoedd Dyfed

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/sgrin/2195910-archif-2000-dapiau-sain-cymraeg-1980au-hagor?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Archif o 2,000 o dapiau sain Cymraeg o’r 1980au i’w hagor yn Llambed
Golwg360

Archif o 2,000 o dapiau sain Cymraeg o’r 1980au i’w hagor yn Llambed

Bydd diwrnod agored ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu archif sy’n cynnwys dros 2,000 o dapiau sain o bobol yn siarad Cymraeg yn yr 1980au. Ddydd Mercher (Ebrill 29) am 14:00, bydd y digwyddiad Archif Tafodieithoedd Dyfed: Ddoe, Heddiw ac Yfory yn rhoi cipolwg ar ieithyddiaeth a hanes cymdeithasol cymunedau Dyfed trwy rannu cyfweliadau o’r casgliad.

0
0
2
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Cymru’n dod o’r tu ôl i guro Tsiecia a chipio brig y grŵp

Daeth Cymru o’r tu ôl i guro Tsiecia 3–1 a gorffen ar frig eu grŵp rhagbrofol.

https://golwg.360.cymru/chwaraeon/pel-droed/2199171-cymru-guro-tsiecia-chipio-brig-grwp?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Cymru’n dod o’r tu ôl i guro Tsiecia a chipio brig y grŵp
Golwg360

Cymru’n dod o’r tu ôl i guro Tsiecia a chipio brig y grŵp

Sicrhaodd tîm merched Cymru fuddugoliaeth hollbwysig o 3–1 dros Tsiecia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth, gan gipio’r safle uchaf yng Ngrŵp B1. Roedd angen i dîm Rhian Wilkinson ennill y gêm er mwyn goddiweddyd Tsiecia, oedd wedi cyrraedd Caerdydd yn gyfartal ar bwyntiau â Chymru ond ar y blaen o ran gwahaniaeth goliau.

0
0
0
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Llywodraeth Cymru’n dechrau ystyried opsiynau manwl ar gyfer trydedd groesfan y Fenai

Bydd Llywodraeth Cymru’n dechrau ystyried opsiynau manwl ar gyfer trydedd groesfan rhwng Ynys Môn a’r tir mawr.

https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2199156-llywodraeth-cymru-dechrau-ystyried-opsiynau-manwl?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Llywodraeth Cymru’n dechrau ystyried opsiynau manwl ar gyfer trydedd groesfan y Fenai
Golwg360

Llywodraeth Cymru’n dechrau ystyried opsiynau manwl ar gyfer trydedd groesfan y Fenai

Mae Llywodraeth Cymru am ddechrau ystyried opsiynau manwl ar gyfer trydedd groesfan dros y Fenai, yn ôl y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth. Wrth wneud datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mark Hooper fod y Llywodraeth yn edrych ar fesurau tymor byr a datrysiadau hirdymor i gryfhau’r cysylltiadau rhwng Ynys Môn a’r tir mawr. “Wrth edrych ar y tymor hwy, byddwn yn awr yn dechrau edrych ar opsiynau manwl ar gyfer trydedd groesfan y Fenai, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud,

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Jonathan Edwards: Gall gwleidyddiaeth fewnol fod yn her i Rhun ap Iorwerth

Y cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru sy’n dweud y gall disgyblaeth o fewn Grŵp Plaid Cymru fod yn broblem i Rhun ap Iorwerth #gwleidyddiaeth

https://golwg.360.cymru/newyddion/2198726-jonathan-edwards-gall-gwleidyddiaeth-fewnol-rhun?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

golwg.360.cymru
0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 5mo ago

Croeso i Faldwyn Meirionnydd 2027!

Ardal Glantwymyn ger Machynlleth fydd cartre’r Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesa. #celfyddydau

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/2195880-croeso-faldwyn-meirionnydd-2027?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Croeso i Faldwyn Meirionnydd 2027!
Golwg360

Croeso i Faldwyn Meirionnydd 2027!

Mae Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2027 wedi cyhoeddi mai Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd fydd enw’r brifwyl flwyddyn nesaf. Daeth y cyhoeddiad ar raglen Aled Hughes wedi i 250 o enwau gwahanol gael eu cynnig gan wrandawyr Radio Cymru.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn galw am wrthod canllawiau newydd ar gyfleusterau un-rhyw

Bwriad y canllawiau yw gwarchod gofodau un-rhyw, ond mae rhai’n dadlau eu bod nhw’n achosi diarddel pobol drawsryweddol o ofodau cyhoeddus #gwleidyddiaeth

https://golwg.360.cymru/newyddion/gwleidyddiaeth/2198783-aelodau-seneddol-plaid-cymru-galw-wrthod?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

golwg.360.cymru
0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Geid Golwg360

Detholiad o raglenni teledu’r penwythnos, o bêl-droed rhyngwladol i droedio byd natur a drama ddirdynnol gan un o’n hawduron cyfoes gorau ni

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/sgrin/2198820-geid-golwg360-4?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Geid Golwg360
Golwg360

Geid Golwg360

DYDD GWENER 5 MEHEFIN MOTD Wales BBC Two Wales, 16.45 Gêm olaf ond un rownd grŵp rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA Menywod 2027. Y fythol ddibynadwy Catrin Heledd sy’n llywio’r cyfan o Stadion pod Goricom yng nghwmni Katie Sherwood, gynt o Cardiff City a Chelsea, a Nia Jones o Wrecsam sydd wedi chwarae pêl-rwyd a phêl-droed dros ei gwlad.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

🗣 Pwysigrwydd Gweithgarwch Corfforol i Blant yn ystod Adolygu ac Arholiadau

Yng nghanol cyfnod arholiadau i nifer, Elin Wyn Williams sy’n myfyrio ar bwysigrwydd symud i blant a phobl ifanc gadw’n iach #safbwynt

https://golwg.360.cymru/newyddion/iechyd/2198770-pwysigrwydd-gweithgarwch-corfforol-blant-ystod?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i blant yn ystod adolygu ac arholiadau
Golwg360

Pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i blant yn ystod adolygu ac arholiadau

Mae cyfnodau adolygu ac arholiadau yn gallu teimlo’n drwm i blant a phobl ifanc. Mae’r pwysau i berfformio’n dda, y disgwyliadau gan yr ysgol, y teimlad o gymharu eu hunain â’u ffrindiau, a’r ofn o wneud camgymeriadau yn gallu creu storm o straen.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 4mo ago

Undebau teledu Cymru yn datgelu cytundeb newydd i amddiffyn perfformwyr rhag AI

Cafodd y cytundeb, a luniwyd ar y cyd gan Equity a TAC, ei gymeradwyo’n unfrydol gan aelodau’r undeb.

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/sgrin/2199102-undebau-teledu-cymru-datgelu-cytundeb-newydd?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Undebau teledu Cymru yn datgelu cytundeb newydd i amddiffyn perfformwyr rhag AI
Golwg360

Undebau teledu Cymru yn datgelu cytundeb newydd i amddiffyn perfformwyr rhag AI

Mae aelodau Cymreig Equity, yr undeb llafur sy’n cynrychioli gweithwyr y sector adloniant, wedi pleidleisio i fabwysiadu cytundeb newydd pwysig sydd ymhlith y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i sefydlu amddiffyniadau penodol ynghylch defnydd deallusrwydd artiffisial (AI) mewn cynyrchiadau teledu.

0
0
1
0
Open post
Golwg @golwg@mastodon.360.cymru
· 5mo ago

Pedair ffilm fer o Gymru yn mynd i gael eu cynhyrchu

Datblygiad mawr i’r diwydiant ffilm yng Nghymru

https://golwg.360.cymru/newyddion/2195931-pedwar-ffilm-gymru-symud-gynhyrchu?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Pedair ffilm fer o Gymru yn mynd i gael eu cynhyrchu
Golwg360

Pedair ffilm fer o Gymru yn mynd i gael eu cynhyrchu

Mae’r asiantaeth Ffilm Cymru Wales wedi cadarnhau bod pedwar prosiect ffilm fer wedi symud i’r cam cynhyrchu fel rhan o gynllun Beacons. Mae’r cynllun, sydd wedi’i gefnogi gan BFI NETWORK a’r Loteri Genedlaethol, yn darparu cyllid, hyfforddiant a mentora i wneuthurwyr ffilmiau newydd yng Nghymru, gan weithredu fel llwyfan i ddatblygu syniadau ar gyfer ffilmiau i’w cynhyrchu.

0
0
1
0
Back
313k7r1n3
Elektrine

Tor hidden service

elekhj7afj4qnrr4yd3bkzslsyo5jgfxw3orgjkhlcxifueodybyiiad.onion

I2P eepsite

j6b6cyk6gjmepjih7jjadxgxvvf3lzzujljuu2v4biemzpg3naya.b32.i2p

Platform

  • Email
  • Chat
  • Timeline
  • VPN
  • DNS

Company

  • About
  • Pricing
  • Contact
  • FAQ
  • Lite (no JS)

Legal

  • Terms of Service
  • Privacy Policy
  • Transparency Report
  • Report Abuse
  • Warrant Canary
  • VPN Policy

Support

  • support@elektrine.com
  • Report Security Issue
Mail client setup IMAP mail.elektrine.com:993 POP3 mail.elektrine.com:995 SMTP mail.elektrine.com:465
© 2026 Elektrine. All rights reserved. Server: 04:08:16 UTC